Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 14 Tachwedd 2017

Amser y cyfarfod: 12.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
4656


99(v4)

------

<AI1>

1       Teyrngedau i Carl Sargeant AC

Dechreuodd yr eitem am 12.30.

Arweiniwyd y Cynulliad gan y Llywydd i nodi munud o dawelwch, a chanwyd y gloch ar ddechrau ac ar ddiwedd y tawelwch. Arweiniodd y Llywydd y teyrngedau a galwodd ar y Prif Weinidog, arweinwyr y pleidiau ac Aelodau eraill i gyfrannu.

Am 13.47, gohiriwyd y trafodion am 13 munud. Canwyd y gloch 5 munud cyn ailymgynnull.

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i'r Prif Weinidog - Gohiriwyd o 7 Tachwedd

Dechreuodd yr eitem am 14.00

Gofynnwyd y cwestiynau 1 – 4, 6 a 8-11. Tynnwyd cwestiynau 5 a 7 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI2>

<AI3>

3       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dechreuodd yr eitem am 14.49

</AI3>

<AI4>

Cynnig i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:

</AI4>

<AI5>

4       Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 - Gohiriwyd o 7 Tachwedd

Dechreuodd yr eitem am 15.06

Cytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.

NDM6554 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Medi 2017.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI5>

<AI6>

5       Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 - Gohiriwyd o 7 Tachwedd

NDM6553 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2017.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI6>

<AI7>

6       Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017 - Tynnwyd yn ôl

</AI7>

<AI8>

7       Dadl:  Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2016-17 - Gohiriwyd o 7 Tachwedd

Dechreuodd yr eitem am 15.12

NDM6550 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2016-17.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI8>

<AI9>

8       Dadl:  Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2016-17

Dechreuodd yr eitem am 16.05

NDM6560 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn cydnabod Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2016-17, sy'n manylu ar y gwaith y mae'r Comisiynydd wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi datblygiadau cadarnhaol yn nefnydd y Gymraeg o dan y gyfundrefn safonau iaith, a reolir gan Gomisiynydd y Gymraeg, ar ôl dim ond blwyddyn iddynt ddod i rym, sy'n cynnwys:

a) bod 76 y cant o siaradwyr Cymraeg o’r farn bod gwasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yn gwella;

b) bod 57 y cant o bobl yn credu bod cynnydd yn y cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r Gymraeg;

c) cynnydd o 50 y cant yn 2015-16 i 96 y cant yn 2016-17 yn nifer y gwasanaethau ffôn lle cynigir dewis iaith yn ddiofyn; a

d) cynnydd o 32 y cant yn 2015-16 i 45 y cant yn 2016-17 yn nifer y cynghorau sy’n cynnig pob tudalen ar eu gwefan yn Gymraeg.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 2 – Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried diddymu rôl Comisiynydd y Gymraeg fel yr amlinellir ym Mhapur Gwyn Bil y Gymraeg.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

19

4

27

50

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM6560 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2016-17, sy'n manylu ar y gwaith y mae'r Comisiynydd wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.

2. Yn nodi datblygiadau cadarnhaol yn nefnydd y Gymraeg o dan y gyfundrefn safonau iaith, a reolir gan Gomisiynydd y Gymraeg, ar ôl dim ond blwyddyn iddynt ddod i rym, sy'n cynnwys:

a) bod 76 y cant o siaradwyr Cymraeg o’r farn bod gwasanaethau Cymraeg sefydliadau cyhoeddus yn gwella;

b) bod 57 y cant o bobl yn credu bod cynnydd yn y cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r Gymraeg;

c) cynnydd o 50 y cant yn 2015-16 i 96 y cant yn 2016-17 yn nifer y gwasanaethau ffôn lle cynigir dewis iaith yn ddiofyn; a

d) cynnydd o 32 y cant yn 2015-16 i 45 y cant yn 2016-17 yn nifer y cynghorau sy’n cynnig pob tudalen ar eu gwefan yn Gymraeg.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd

</AI9>

<AI10>

9       Cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol

Dechreuodd yr eitem am 16.46

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6561 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol a Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno ar argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Mawrhydi benodi Jeremy Miles AC fel Cwnsler Cyffredinol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

14

0

50

Derbyniwyd y cynnig.

</AI10>

<AI11>

10   Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Dechreuodd yr eitem am 16.57

NDM6562 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol:

Adrannau 2 - 94

Atodlen 1

Adran 1

Teitl Hir

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI11>

<AI12>

11   Dadl: Mynd i'r Afael â Chamddefnyddio Sylweddau - Gohiriwyd tan 21 Tachwedd

</AI12>

<AI13>

12   Dadl:  Cyfnod 3 Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - Gohiriwyd tan 28 Tachwedd

</AI13>

<AI14>

13   Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 16.58

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 16.59

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 15 Tachwedd 2017

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>